Wrth ymchwilio i gefndir y Siartwyr a'r anghydfod cymdeithasol oedd yn berwi o dan yr wyneb yn yr 1830au, daethom ar draws nifer o luniau neu 'gartwnau' gwleidyddol gan Hogarth. Pwrpas y rhain oedd dangos safbwynt yr awdurdodau. Portreadai Hogarth y werin a'r gweithwyr fel anifeiliaid rheibus, hunanol, afrad oedd yn barod i larpio y bonedd a'r brenin. Am amryw o resymau, felly, penderfynwyd troi'r syniad yma ar ei ben a chymeriadu'r bonedd fel cartoons lliwgar. Buom yn arbrofi gyda nifer o syniadau a phenderfynu yn y diwedd mai trwy ddynwared ieir y byddai'r teimlad yn cael ei gyfleu orau. Drwy'r ddelwedd o ieir y gellid dangos y rhinweddau oedd eu hangen yn y caneuon, Dewch i mewn (balchder mawreddog), 'Na, na' (dirmyg coeglyd) a Mae wedi mynd i'r diawl (llwfrdra).
Mae Marsh (Y Maer), ar y llaw arall, yn cael ei bortreadu fel dyn o gig a gwaed ac yn gymeriad diddorol iawn yn y stori. (Safai ei garreg fedd wrth ddrws yr eglwys yn Llanidloes a thystiai un o'r brodorion hyd yn oed heddiw, iddo boeri ar y garreg yma bob bore Sul wrth fynd i'r gwasanaeth.)
Mae'r bobl gyffredin yn cael eu portreadu yn hollol naturiol.
Yn ystod y gân Fy mreuddwyd gwelir mam Morris yn eistedd wrth fwrdd yn galaru. Daw'r Comisiynydd i mewn o un ochr i'r llwyfan ac asiant y tirfeddiannwr o'r ochr arall. Mae'r Comisiynydd yn rhoi arian y plwy mewn un llaw iddi a chymera'r asiant yr arian o'r llaw arall.
Yr olygfa bwysicaf yn y stori yw'r ymosodiad ar westy'r Trewythen a buom yn chwarae gyda nifer o wahanol arddulliau i gyfleu y digwyddiad yma. Gellir ei wneud trwy feim, trwy ddefnyddio'r gerddoriaeth, neu drwy unrhyw ddyfais effeithiol arall sydd gan y cynhyrchydd.
Daeth popeth i ben yn ddisymwth ac yn ddiwrthwynebiad yn Llanidloes pan ddaeth y milwyr i'r dre. I gyfleu hyn, yn y sioe wreiddiol, ar ddiwedd y ddeuawd Ar y Gorwel, cerddai swyddog o filwr i mewn yn hamddenol ac edrych ar Morris, yntau yn sylweddoli ei fod wedi ei ddal. Arwyddai'r swyddog i ddau filwr ddod i mewn ac arwain Morris allan yn ddi-brotest. Cerddai y swyddog allan yr un mor hamddenol gan gyfarch Ruth yn union fel petai yn mynd allan am dro ar brynhawn Sul.
Gellir dadlau mai digwyddiad cymharol fach oedd digwyddiad Llanidloes (o'i gymharu â digwyddiad Casnewydd) ond wrth ysgrifennu y sioe Pum Diwrnod o Ryddid ceisiwyd crynhoi holl elfennau pwysig mudiad y Siartwyr a'i gyfleu o safbwynt trigolion ardal Llanidloes. Mae'n ddiddorol nodi fod pump allan o'r chwe phwynt yn y siarter wreiddiol bellach yn ddeddfau gwlad.
While researching the background to the Chartist movement and the social uprising of the 1830s we came across a series of political cartoons by Hogarth. These were meant to reflect the opinion of the authorities and to portray the working class people as savage beasts. For various reasons we decided to turn this idea on its head and portray the nobility as colourful cartoon characters. By imitating a swarm of hens, the nobility characters could successfully imply the boastful pride in Dewch i mewn (Come on in), the sarcastic contempt in 'Na, na' (No, no) and the cowardice in Mae wedi mynd i'r diawl (The world has gone to hell).
On the other hand, Marsh (The Mayor) is portrayed as a real human being, and is a very interesting character. (One of the local people still testifies today that he used to spit on T. E. Marshs' gravestone at Llanidloes church every Sunday morning on his way to the service!).
The working class people are also portrayed as normal characters.
During the song Fy mreuddwyd (My dream), Morris' mother, in her grief, sits by the table weeping. The Commissioner enters the stage and the landowner's Agent enters from the other side. She is given the parish money by the Comissioner and immediately it is taken from her by the Agent.
One of the most important scenes in the story is the attack on the Trewythen Hotel. This can be conveyed through music, through mime, or through any other effective device open to the producer.
Everything comes to an abrupt end at Llanidloes when the soldiers enter the town. In the original production, we conveyed this at the end of the duet Ar y Gorwel (In the future) by having one of the soldiers calmly walking in and looking at Morris, who by now, realises that his time is up. He is led out, and the soldier follows, greeting Ruth as he would on a Sunday afternoon stroll.
It can be said that the events at Llanidloes were on a fairly small scale compared to the events at Newport, but Pum Diwrnod o Ryddid tries to encapture all the important elements of the Chartists movement and to convey them from the point of view of the inhabitants of Llanidloes.
It is interesting to note that five of the six points in the original Charter are now laws.