Cwmni theatr gerdd amatur yn sir Drefaldwyn yw Cwmni Theatr Maldwyn. Sefydlwyd y Cwmni'n wreiddiol ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol Maldwyn ym Machynlleth yn 1981. Sylfaenwyr y cwmni oedd Derec Williams, Linda Gittins a'r Prifardd Penri Roberts - nhw sydd hefyd yn gyfrifol am gyfansoddi’r sioeau.
Perfformiwyd y ddrama gerdd Pum Diwrnod o Ryddid am y tro cyntaf gan y Cwmni yn Theatr Hafren y Drenewydd yn ystod Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd yn Y Drenewydd yn 1988.
Cynyrchiadau blaenorol:
Y Mab Darogan (1981) – sioe sy’n portreadu hanes Owain Glyndŵr.
Y Cylch
Y Llew a’r Ddraig
Myfi Yw – oratorio am hanes y Pasg
Pum Diwrnod o Ryddid (1988) – sioe am hanes gwrthryfel y Siartwyr yn Llanidloes ym 1839
Heledd (1997) – sioe yn ail-greu hanes y dywysoges Heledd
Ann! (2003) – sioe am yr emynyddes Ann Griffiths
Gwydion (2015) – sioe yn seiliedig ar hanes Gwydion fab Dôn a Blodeuwedd.
Cwmni Theatr Maldwyn is an amateur musical theatre company based in Montgomeryshire. It was originally formed for the Montgomeryshire National Eisteddfod in Machynlleth in 1981 by Derec Williams, Linda Gittins, and the poet Penri Roberts – who also wrote and composed the company’s shows.
Pum Diwrnod o Ryddid was first performed by Cwmni Theatr Maldwyn at Theatr Hafren during the National Urdd Eisteddfod at Newtown, Montgomeryshire in 1988.
Past productions:
Y Mab Darogan (1981) – a musical about the story of Owain Glyndŵr.
Y Cylch
Y Llew a’r Ddraig
Myfi Yw – an oratorio about Easter.
Pum Diwrnod o Ryddid (1988) – the story of the Chartist uprising in Llanidloes in 1839.
Heledd (1997) – a musical about the story of Princess Heledd.
Ann! (2003) – a musical about the hymn-writer Ann Griffiths.
Gwydion (2015) – a musical based on the legend of Gwydion son of Dôn and Blodeuwedd from the Mabinogi.
Sylfaenwyr y Cwmni: (o'r chwith) Penri Roberts, Linda Gittins, a'r diweddar Derec Williams.
The founders: (from the left) Penri Roberts, Linda Gittins, and the late Derec Williams.