Yn nhridegau'r ganrif cyn y diwethaf, gwelwyd y chwyldro cyntaf gan y dosbarth gweithiol ym Mhrydain. Lansiwyd y Siarter yn y flwyddyn 1837 ac fe gafodd groeso brwdfrydig gan y gweithwyr ymhobman. Crisialwyd holl obeithion a dyheadau'r werin yng ngofynion y Siarter. O ystyried mai 16 miliwn o bobl oedd poblogaeth Prydain Fawr ar y pryd, mae'n arwyddocaol fod dros 3 miliwn, o ddynion yn unig, wedi arwyddo'r Siarter. Roedd y Siarter yn sicr yn chwyldroadol yn yr hyn a fynnai - pleidlais i bob dyn, pleidlais gudd heb orfodi profi perchnogaeth. Bu gweithredoedd chwyldroadol y mudiad hwn yn ysbrydoliaeth, maes o law, i gewri megis Marx ac Engels.
Gosodwyd amodau'r Siarter ger bron y Senedd yn Llundain ond gwrthodwyd pob un. Wedi'r gwrthod, daeth yr arweinwyr ynghyd i geisio penderfynu strategaeth y mudiad. Ni lwyddwyd i roi arweiniad i'r gweithwyr ac ni welwyd unrhyw weithredu tactegol gan y mudiad yn ei gyfanrwydd. Dim ond yng Nghymru y gwelwyd gwrthdaro uniongyrchol, a hynny yn Llanidloes a Chasnewydd yn 1839.
Yn Llanidloes, roedd mudiad y Siartwyr yn boblogaidd iawn ymysg y gweithwyr. Cynhaliwyd nifer o gyfarfodydd yno, a mynychwyd hwy gan nifer fawr o bobl. Yn dilyn un o'r cyfarfodydd hyn, arestiwyd tri o arweinwyr y Siartwyr gan heddweision a fewnfudwyd o Lundain. Cymerwyd y tri i westy'r Trewythen yn Stryd y Dderwen Fawr. Ymatebodd y dorf yn reddfol gan ymosod ar y gwesty a rhyddhau'r tri. Anafwyd yn ddifrifol un o'r heddweision yn y sgarmes ac fe achoswyd difrod mawr yn y Trewythen.
Roedd T.E Marsh, cyn Faer y Dref, yn allweddol iawn yn yr hyn a ddigwyddodd. Ef a alwodd am gymorth gan y milwyr i wrthsefyll y Siartwyr. Cred rhai ei fod wedi twyllo'r Siartwyr, gan roi'r argraff ar un adeg ei fod yn cydymdeimlo ag amcanion y mudiad.
Llwyddodd y Siartwyr i reoli'r dref am bum niwrnod ond yna, wedi i'r newydd gyrraedd y dref fod y milwyr ar eu ffordd, dihangodd arweinwyr y mudiad. Llwyddwyd i ddal y rhan fwyaf ohonynt ac fe'u dedfrydwyd yn Llys y Trallwn: James Morris, pymtheg mlynedd o alltudiaeth; John Ingram, Abraham Owen a Lewis Humphreys, saith mlynedd o alltudiaeth - oll yn cael eu hanfon i garchar llafur caled yn Botany Bay yn Awstralia. Carcharwyd eraill, gan gynnwys rhai gwragedd, yng ngharchar Trefaldwyn.
Methiant fu'r gwrthdaro hwn yn Llanidloes oherwydd fod cyfalafiaeth yn orchfygol. Roedd y dosbarth gweithiol yn rhy anaeddfed eu tactegaeth, yn rhy ansicr o'u hathroniaeth gwleidyddol. Er hynny, fe heuwyd yr hadau a gwelwyd ffrwythau'r aberth yn y genhedlaeth nesaf. Dim ond Pum Diwrnod o Ryddid a gafwyd yn Llanidloes, ond gadawyd y blas a'r dyhead am ryddid yng nghalonau'r werin am byth.
Perfformiwyd y ddrama gerdd Pum Diwrnod o Ryddid gyntaf gan Cwmni Theatr Maldwyn yn Theatr Hafren y Drenewydd yn ystod Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd yn Y Drenewydd yn 1988.
The third decade of the nineteenth century witnessed the first revolution of the working class in Britain. The Charter was launched in 1837 and, was enthusiastically received by workers everywhere. The hopes and aspirations of the proletariat were crystallized in the terms of the Charter. When it is considered that the entire population of Britain was 16 million, it is notable that over 3 million men signed the Charter. The Charter was certainly revolutionary in its aims: a vote for every man, through a secret ballot without property qualification. These revolutionary acts proved an inspiration, in times to come, for the likes of Marx and Engels.
The six aims of the Charter were presented before Parliament in London but each one was rejected. Following this rejection the leaders came together to decide on a strategy for the movement. However, they failed to provide clear leadership to the workers and no committed tactical action was displayed by the movement. It was only in Wales that direct action occurred, in Llanidloes and Newport (Gwent) in 1839.
In Llanidloes the Chartist movement was very popular amongst the workers. Several meetings were held there, attended by large crowds. Following one of these meetings three of the Chartist leaders were arrested by policemen imported from London. The three were taken to the Trewythen Hotel in Great Oak Street. The crowd responded instinctively by attacking the hotel and freeing the three men. One of the policemen was badly wounded in the skirmish and much damage was done to the hotel.
T. E. Marsh, ex-mayor of the town, was a key figure in the events. It was he who asked for assistance from the military to confront the Chartists. The Chartists succeeded in holding the town for five days but, on hearing that the soldiers were on their way, the leaders of the movement fled. Most of them were caught and were sentenced at Welshpool - James Morris to 15 years transportation, John Ingram, Abraham Owen and Lewis Humphreys to 7 years transportation, while others were imprisoned at Montgomery Gaol.
The confrontation in Llanidloes was a failure because of the might of capitalism. The working class was too immature tactically, and too ambiguous in their political philosophy. Seeds nevertheless were sown and the fruits of the sacrifice were seen a generation later. Only Five Days of Freedom were experienced in Llanidloes, but the yearning for freedom was left in the hearts of the people for ever.
Pum Diwrnod o Ryddid was first performed by Cwmni Theatr Maldwyn at Theatr Hafren during the National Urdd Eisteddfod at Newtown, Montgomeryshire in 1988.