🎟 Am ddim – dim angen tocyn.
🎭 Llwyfan awyr agored – cofiwch ddod â chadair.
⏱ Hyd y sioe – tua 90 munud.
☔ Tywydd – dewch â dillad addas.
🚗 Parcio – meysydd parcio am ddim ar gael.
🎟 Free – no ticket required.
🎭 Outdoor stage – bring a chair so you’re comfy.
⏱ Show length – around 90 minutes.
☔ Weather – dress for the conditions; show goes ahead in light rain.
🚗 Parking – free car parks available.
Oes siŵr iawn! Er mai sioe gerdd Gymraeg ydy Pum Diwrnod o Ryddid does dim rhaid i chi fod yn gallu siarad Cymraeg er mwyn mwynhau'r perfformiad. Rydyn ni hefyd wedi paratoi dogfen syml sy'n cynnwys rhestr o'r holl gymeriadau a phwt o wybodaeth amdanyn nhw, yn ogystal â chrynodeb o bob cân. Ewch i'r dudalen Lawrlwytho i argraffu neu gadw'r daflen ar eich ffôn a'i rhannu gyda'ch ffrindiau cyn y sioe – fel bod modd iddyn nhw ddeall y stori'n well a mwynhau pob eiliad ohoni.
Absolutely! Pum Diwrnod o Ryddid may be a Welsh-language musical, but you don’t need to speak a word of Welsh to have a great time. We’ve put together a handy PDF with a list of the main characters, who they are, and a short guide to what’s happening in each song. You can grab it from our Downloads page to print or save on your phone before the show – so you can follow along and enjoy every moment.
Nagoes, mae'r perfformiad yma am ddim! Y cyfan sydd angen i chi wneud ydy dod o hyd i le da a mwynhau'r sioe. Rydyn ni'n argymell eich bod chi'n cyrraedd mewn da bryd i fachu'r llefydd gorau.
No booking needed – and it’s completely free! Just turn up, find a good spot, and enjoy the show. We do recommend arriving a little early to get the best view.
Os ydych chi'n byw'n ddigon agos, rydyn ni'n eich annog i gerdded i'r perfformiad er mwyn lleihau faint o draffig fydd yn teithio drwy'r dref. Os ydych chi'n teithio o rywle pellach, dylai fod digon o le i chi yn y meysydd parcio yma.
Bydd modd parcio am ddim yn y llefydd canlynol:
Maes Parcio'r Ganolfan Gymunedol
Clwb Pêl-droed Llanidloes
Ysgol Gynradd Llanidloes
Maes Parcio'r Gro
Kennel Fields
If you live within walking distance, we encourage you to come on foot to help reduce traffic in the town centre. For those travelling from further afield, these free car parks should provide plenty of space for you.
Free car parking will be available at the following locations:
Community Centre Car Park
Llanidloes Football Club
Llanidloes Primary School
Gro Car Park
Kennel Fields
Bydd y sioe yn cael ei pherfformio ar lwyfan awyr agored, heb seddi swyddogol yn cael eu darparu i'r gynulleidfa. Er mwyn gallu mwynhau'r sioe i'r eithaf, rydyn ni'n argymell eich bod yn dod â'ch cadeiriau eich hunain. Cofiwch gyrraedd mewn digon o bryd i gael bachu'r llefydd gorau a chael golygfa dda o'r perfformiad.
The show will take place on an outdoor stage, and no seating will be provided. To make the most of the evening, we suggest bringing your own chair so you can sit back, relax, and enjoy the performance in comfort. Arriving early is the best way to set up and get a great view of the stage.
Oes. Bydd ganddon ni le pwrpasol yn agos at flaen y llwyfan ar gyfer defnyddwyr cadeiriau olwyn. Bydd stiwardiaid wrth law ar y noson i'ch helpu chi i ddod o hyd i le ac i ateb unrhyw gwestiynau. Os hoffech chi roi gwybod i ni ymlaen llaw eich bod chi'n dod, gallwn ni wneud yn siŵr bod lle addas ar gael i chi. Rydyn ni am i bawb allu mwynhau'r perfformiad hanesyddol yma o Pum Diwrnod o Ryddid.
Rhowch wybod drwy'r ffurflen gyswllt.
Yes. We’ll have a dedicated area close to the performance space for wheelchair users. Stewards will be on hand to help you get settled and answer any questions. If you’d like to let us know you’re coming in advance, we can make sure your spot is ready and waiting. We want everyone to be able to enjoy Pum Diwrnod o Ryddid in comfort and without stress.
Let us know through our contact form.
Mae'r sioe'n para tua 90 munud heb egwyl. Gan ei bod hi'n sioe sy'n cael ei chynnal yn yr awyr agored, rydyn ni'n argymell eich bod chi'n dod â'ch cadeiriau eich hunan fel bod modd i chi ymlacio a mwynhau'r perfformiad.
The performance runs for around 90 minutes with no interval. As it’s an outdoor show, you might like to bring a chair so you can sit back, relax, and enjoy the performance in comfort.
Bydd – fel y Siartwyr eu hunain, mae angen mwy nag ychydig o law i ddiffodd fflamau ein perfformiad ni! Os na fydd hi'n bwrw gormod, bydd y perfformiad yn mynd yn ei flaen, felly cofiwch ddod â chot law neu ymbarél. Os bydd rhagolygon am dywydd mwy garw, byddwn ni'n rhannu diweddariadau ar ein gwefan a sianeli cyfryngau cymdeithasol.
Yes – the Chartists didn’t let a bit of weather stop them, and neither will we! If it’s light rain, the show will go ahead as planned, so bring a coat or umbrella. In the case of severe weather, we’ll post updates on our website and social media.
Ydy, yn ein barn ni! Mae sioe Pum Diwrnod o Ryddid yn seiliedig ar ddigwyddiadau go iawn a ddigwyddodd yma ar garreg ein drws, gyda'r cymeriadau yn seiliedig ar bobl go iawn o gyfnod y Siartwyr. Mae'n rhan pwysig o'n hanes ni – yma yn Llanidloes, ac yn genedlaethol – ac rydyn ni'n meddwl ei bod hi'n werthfawr i blant o bob oed weld eu hanes nhw'n dod yn fyw. Er bod rhai golygfeydd yn ddramatig (wedi'r cyfan, sioe am wrthryfel ydy hon!), does dim byd anaddas i gynulleidfaoedd iau ynddi – ac mae'n ffordd wych iddyn nhw gael blas ar ein hanes ni.
We believe so! Pum Diwrnod o Ryddid is based on real events that happened right here on our very doorstep, with characters inspired by real people from the time. It’s an important part of Llanidloes’ history, and we think it’s valuable for children and young people to see it brought to life. While some scenes are dramatic (it was an uprising, after all!), there’s nothing unsuitable for younger audiences – and it’s a brilliant way to connect them with their own heritage.